Ffotograffydd Priodas Cymraeg
The CLiff Hotel Ceredigion
Y Paratoi a'r Seremoni (Elm Cottage a Capel Bethlehem, Sanclêr)
Dechreuodd y bore llawn cyffro yng Nghwmbach ger Hendygwyn gyda Elin ei morwynion a ffrindiau agos. Mi oedd yna gyffro hamddenol i'r bwthyn wrth i Elin paratoi cyn. i'w thad ei chodi i fynd at y Capel yn y tractor John Dere.
Wrth i ni adael i fynd tuag at y Cliff roedd amser i stopio yn sied tad Elin i gael lluniau yn y caeau gyda prydferthwch Sit Gar yn y cefndir.
Gwesty'r Cliff
Fel rhywun a ddechreuodd ffotograffiaeth drwy dynnu lluniau tirluniau, mae’r Cliff Hotel yn bleser pur gan fod modd gweld y môr o bob cyfeiriad. Perffaith ar gyfer lluniau syml, naturiol wrth ymyl y môr. Oherwydd ei leoliad ar yr aber, mae’r llanw fel arfer yn dod yn agos at yr arfordir, felly mae sŵn y tonnau bob amser yn llenwi’r cefndir.
Roedd awyrgylch hyfryd yn y Cliff wrth i bawb groesawu'r cwpwl ac roedd y stafell brecwast priodas yn edrych yn hollol anhygoel gyda steilio perffaith gan Stiwdio Dots. Rhaid hefyd sôn am y gacen stunning gan Tishe Teisen a blodau prydferth Teifi Blooms.
Lluniau ger y môr
Does ddim lle gwell na'r Cliff ar noson braf o Haf a naethon ni fanteisio ar yr awr euraidd i fynd am wâc i'r arfordir a chael ambell lun wrth i'r haul fachlud. Rwy wastad yn awgrymu defnyddio'r amser yma i gael sesiwn lluniau achos erbyn hyn mae pawb wedi ymlacio'n llwyr (mae'r Prosseco fel arfer yn helpu gyda hyn) ac mae cyplau'n gwerthfawrogi’r amser tawel gyda'i gilydd.
Parti Nos
Gorffennodd y dydd gyda dawnsio a parti bywiog, gyda’r gwesteion yn chwerthin ac yn mwynhau’r tywydd braf ar y dec. Wrth i’r haul fachlud, roedd naws hamddenol, gynnes yn llenwi’r lle.
Ffotograffydd Priodas Cymraeg
Ewch i weld mwy o waith Tom a cysylltwch i weld os yw e ar gael i ffotograffu eich diwrnod.