Nes i gwrdd gyda Lianne a Dean tua mis cyn y briodas i gynnal sesiwn dyweddïo - roedd yn gyfle grêt i gael lluniau hyfryd ond y gwir fwriad oedd trafod y dydd ac i'r ddau ddod yn fwy cyfforddus o flaen y camera. Dwi'n meddwl gweithiodd hwn yn wych achos roedd y ddau wedi ymlacio ac yn hollol naturiol o flaen u camera. 


Dechreuais gan ffotograffu'r paratoi ar gyfer y ddau. Gyda nhw mor agos i'w gilydd roedd yn bosib symud rhwng y ddau dy yn Llandybie. 

Roedd y seremoni yng Nghapel Llandybie ac ar ol iddyn nhw briodi, nes i ddilyn y VW Camper draw at Twr Paxton yn Llanarthne.

Tŵr Paxton

Tŵr yw hwn o'r 17G gyda golygfeydd arbennig o'r ardal. Mae'n bosib gweld Dyffryn Tywi gan gynnwys Castell Dryslwyn o'r twr (Os ydych byth yn meddwl am rywbeth i wneud rhyw brynhawn, dwi'n argymell gyrru rhwng y ddau a falle galw yn Wright's Food Emporium i godi bwyd!). 


Dim ond wâc fer o'r maes parcio yw hi, felly lleoliad perffaith i dynnu ambell bortread o'r ddau. Dydw i ddim yn un am ofyn i gyplau 'posan' gormod felly mae mynd am dro a promptiau syml yn cael y gorau allan o sefyllfaoedd fel hyn. Dyma'r canlyniadau!


Fferm Pen-y-Graig (The Olde Barns)


Am leoliad i gael parti priodas. Hollol hyfryd mewn pob ffordd - rystig, golau hyfryd a llwyth o lefydd i gael lluniau. Gallai ddim gofyn am fwy! Sgrolwch y lluniau isod i weld mwy o Ben y Graig!

Ar ddiwedd y dydd, cymerais fantais o'r haul yn machlud a'r golau euraidd, cyn cymryd lluniau o'r ddawns gyntaf a'r partio gwnaeth ddilyn!

Ffotograffiaeth Thomas Roberts Photography


Dewch i fy ngwefan er mwyn dysgu mwy amdanaf i, gweld rhagor o luniau a gwybodaeth am brisiau.

Find out More

Follow me on Instagram