O Sir Gaerfyrddin i'r Eidal (fesul Gwynedd)


Ers i fi gychwyn gyda ffotograffiaeth dros 14 mlynedd yn ôl, mae gogledd orllewin Cymru wedi bod yn ardal dwi'n caru ac yn fy marn i does dim llawer o dirweddau sy'n well nag Eryri. Felly roeddwn yn gyffrous iawn pan fwciodd Isabelle a Chris fi i ffotograffu eu priodas ym Mhortmeirion. Penderfynais ddod i fyny'r diwrnod cynt a gweld Portmeirion fel ymwelydd cyn y diwrnod mawr. Mae'r pentref ei hun yn anodd disgrifio (gobeithio bydd y lluniau'n gwneud jobyn gwell na fy ngeiriau!), ond mae'r cyfuniad o'r naws Eidaleg a Chymreig yn hollol unigryw.


Ces i groeso gan y gwesty a'r cyfle i fynd o gwmpas y pentref mewn math o gert golff. Roedd y gyrwr, Ger, yn wych am esbonio'r hanes a'r lleoliadau posib ar gyfer llunie. Des i wybod hefyd fod ganddo deulu yn gwrieddio o Lanelli, byd bach! Ar ol cael gweld Portmeirion a dechrau meddwl am sut byddaf yn mynd ati i gael y lluniau gorau phosib, roeddwn yn barod ac yn gyffrous ar gyfer diwrnod Isabelle a Chris.


Portmeirion, Gwynedd

Y PARATOI (Y Bechgyn)


Y PARATOI (Y Merched)

Y SEREMONI

Yng nghanol y pentref mae Neuadd Ercwlwff a dyma oedd lleoliad y seremoni. Gyda'i nenfwd Jacobeaidd trawiadol, pontydd baril gwynion, paneli o bren tywyll a ffenestri mwliwn (diolch i Google am yr hanes!) roedd wir fel rhywbeth allan o raglen deledu.


Wrth i Isabelle a'i thad cyrraedd, tynnais luniau ohonyn nhw'n cerdded tuag at y neuadd ar draws y llwybr coblog gyda'r pentref yn y cefndir. 

Mae yna oleudu hyfryd ym Mghortmeirion ger y gwesty, felly ar ol i bawb cael peth amser i fwynhau a llongyfarch Isabelle a Chris, aethon ni ati i gymryd lluniau o teuluol a ffrindiau agos.

Y BRECWAST PRIODAS

Y Parti Nôs


Erbyn y nos roedd neuadd Ercwlwff wedi ei drawsnewid yn llwyr ac yn leoliad gwych ar gyfer y parti.

MR & MRS BOODENY


Ar ôl i'r pentref cau i'r cyhoedd, mae'r ymdeimlad o gwmpas pentref Portmeirion yn newid unwaith eto. Es i gyda Isabelle, Chris a'r fideograffydd mewn i'r cert golf cyn cerdded yn araf nôl i'r neuadd yn manteisio ar y lleoliadau gwahanol a'r golau euraidd. 

Llongyfarchiadau Isabelle a Chris!

Ffotograffiaeth Thomas Roberts Photography


Ewch i fy ngwefan i weld rhagor o luniau, dysgu mwy amdanaf ac i gysylltu â fi.

Gwefan