Diwrnod priodas Rhian a Dan


Llandeilo

Y PARATOI


Dechreuodd y diwrnod yng Ngehfneithin, lle roedd Rhian a'u morwynion briodas yn paratoi. Ces i croeso hyfryd wrth i fi ddechrau gan ffotograffu'r manylion, gemwaith yn ogystal a cael digon o luniau candid cyn y seremoni. Dyma un o fy hoff adegau y diwrnod fel arfer, roedd pawb wedi ymlacio ond yn gyffrous ac yn yn edrych ymlaen at weddill y dydd.

Y SEREMONI


Cliriodd y glaw mewn pryd i'r seremoni, mae capel Yr Horeb drws nesaf i'r gwesty ac yn leoliad hyfryd i briodi gyda golau da ac adeilad sydd llawn cymeriad.

Ar ol gadael y capel a thaflu conffeti mi oedd yn cyfle am luniau'r gweistion.

LLUNIAU RHIAN A DAN


Es i gyda Rhian a Dan i fyny i Barc Pelan sydd rhyw 5 munud o wac i ffwrdd. Ar ben y bryn mae yna fandstand hyfryd. Lleoliad hyfryd ar gyfer llunie gyda golygfeydd gwych ar draws y cwm.

Welcome to Wrexham!


Mae Dan yn ffan mawr o dîm pêl droed Wrecsam a dyna oedd thema'r byrddau. Rhaglen deledu Welcome to Wrexham oedd un o fy hoff sioeau eleni ac er doedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney heb ddod i'r briodas roedd un o enwogion y sioe John Hughes (cyfansoddwr y gân 'Welcome to Wrexham') yna yn canu cyn ac ar ôl y bwyd.

BRECWAST PRIODAS A PARTI NOS

Mae gwesty'r Cawdor yn wych ar gyfer priodasau yn enwedig yn ystod y gaeaf gydag ystafelloedd cynnes a chwtshlyd trwy gydol y gwesty. Roedd awyrgylch trwy gydyol y prynhawn a'r partio nos.

Llongyfarchiadau Rhian a Dan!

Ffotograffiaeth Thomas Roberts Photography