Helo, Tom dw i..

Rwy’n ffotograffydd sy'n arbenigo mewn priodasau a thirluniau. Ces i'n fagu yn Sir Gar, felly yn naturiol mae’r awyr agored a golau naturiol wedi cael dylanwad cryf ar sut dwi’n mynd at i greu ffotograffau. Mae achlysur eich priodas yn unigryw ac rwy’n angerddol dros ddweud eich stori mewn ffordd naturiol gan dalu sylw at y manylion cofiadwy yn ogystal a phob ennyd fer ar eich diwrnod arbennig.

Rwy'n gwr i Jen ac yn dad i ddwy ferch fach hyfryd. Dwi'n mwynhau cwrw da, barbeciwio ac amser yn yr awyr agored. Fel athro profiadol, dwi hefyd yn gallu cyfathrebu'n effeithio sy'n gwneud rheoli torfau priodas yn ddigon hawdd! 

Yn 2019 enillais wobr yn seremoni Gwobrwyo Ffotograffeg y DU gyda ffotograff o Ynys Skye. Mae'r fideo isod yn dangos yr hanes. Des i'n feirniad ar raglen Heno, S4C yn fuan ar ôl hyn ar gyfer eu cystadleuaeth ffotograffeg! 



Trosolwg o'r ffordd dw i'n ffotograffu priodasau

Thomas roberts

Cwestiynau cyffredin

Sut wyt ti'n mynd ati i ffotograffu priodasau?

Am 80% o'r dydd byddaf yn ffotograffu mewn ffordd ddogfennol, candid gan sicrhau fod amser hefyd gennym i gael portreadau naturiol.

Yn le wyt ti'n byw ac wyt ti'n fodlon teithio?

Dwi'n byw ger Llanelli, Sir Gaerfyrddin felly mae De Cymru yn digon agos i mi. Os hoffech chi fi deithio'n bellach, cysylltwch a fi i holi mwy.

Oes rhaid i fi aros yn hir am y lluniau?

Byddaf yn danfon link i chi gyda'r lluniau o fewn 6 wythnos o ddiwrnod eich priodas.

Sawl llun ydyn ni mynd i dderbyn?

Byddwch yn derbyn rhwng 400 a 600 llun o ddiwrnod cyfan. Credaf yn gryf taw safon, nid nifer sy'n bwysig!

Help, dydyn ni ddim yn hoffi cael ein llun wedi tynnu!

Wel, gallai ddechrau gan ddweud fy mod i'n gwybod sut ydych chi'n teimlo. Felly, byddwn yn cadw'r broses mor naturiol a phosib ac ar ôl peth amser o dod i nabod ein gylydd byddwch lot yn hapusach i wneud - dwi'n addo!

Wyt ti'n tynnu lluniau du a gwyn?

Rwy'n dwlu ar ffotograffau du a gwyn a weithiau dyma beth sy'n edrych yn well. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad i benderfynu pa luniau i olygu yn lliw a pa rhai i wneud yn du a gwyn.

Mae fy ngwaith wedi ymddangos yn y cyhoeddiadau canlynol..