Mae nifer o ni wedi bod yn rhan o briodas ble mae'r ffrindiau a'r teulu yn sefyll o gwmpas tra'n ysu i fwynhau (a mynd i'r bar) ond yn styc yn cael lluniau am beth sy'n teimlo fel oriau. Mae diwrnod eich priodas mor bwysig ac mae pob munud hefyd yn cyfrif felly y peth olaf chi eisiau yw i wario mwy o amser sydd angen yn cael lluniau grwp.
Er dweud hynny, rwy'n gytun fod lluniau grŵp yn rhan bwysig iawn o ddiwrnod eich priodas. Dyma’r lluniau sy’n dod yn drysor i’r teulu, sy’n cael eu fframio ar wal mamgu ac sy’n cael eu tynnu allan flynyddoedd yn ddiweddarach.
Yn fy marn i, swydd y ffotograffydd yw i sicrhau fod y lluniau pwysig yma'n cael ei gymryd mewn ffordd amserus. Mae hwn yn dechrau cyn diwrnod y briodas. Dyma sut i gael lluniau grŵp gwych ar ddiwrnod eich priodas heb ei droi mewn i shwt sy'n cymryd oriau.
Faint o Luniau Grŵp Ddylem Ni Eu Cael?
Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin mae cyplau’n ei ofyn yw:
“Faint o luniau grŵp sydd wir eu hangen?”
Y gwir yw bod y nifer fel arfer yn llai nag y mae pobl yn ei ddisgwyl.
Canllaw Syml:
I’r rhan fwyaf o briodasau, mae 8–12 llun grŵp yn fan cychwyn da.
Fel arfer, mae hyn yn cynnwys:
- Y cwpl gyda’r teulu agos
- Y cwpl gyda’r teulu estynedig
- Y cwpl gyda’r parti priodas
- Y cwpl gyda ffrindiau agos
Fel arfer mae pob llun yn cymryd 2-3 munud felly bydde 10 cyfuniad yn cymryd rhyw hanner awr. Os ydych yn penderfynu cael llun o bawb mae hyn yn gallu ychwanegu 5-10 munud.
Blaenoriaethwch yr Hyn sy’n Bwysig
Dwi wastad yn annog cyplau i gael lluniau unigol gyda teulu agos sef rhieni, brodyr/chweoryr, mamgus a tadcus. Ar ol hynny, gofynnwch i’ch hunain un cwestiwn syml.. “Pa luniau fyddai’n siom pe na baen nhw’n cael eu tynnu?”. Dyna’r lluniau sy’n haeddu lle ar y rhestr. Os nad yw grŵp yn hanfodol, mae’n debyg nad oes angen llun.
Beth sy'n gallu achosu'r broses i gymryd yn hirrach na sydd angen?
Heb os ac oni bai y broblem fwyaf yw dod o hyd i gweistion! dyma ble mae swydd eich morwynion ac ushers mor bwysig. Mae penodi un neu ddau berson i fod ar gael i chwilio, tywys a sicrhau bod nhw yn y lle cywir yn gwneud popeth i rhedeg yn fwy esmwyth. Fel ffotograffydd rwy'n gosod y lluniau ac yn rheoli'r broses ond os nad yw'r gweistion yna mae'n anodd iawn! Mae'n help mawr os ydyn nhw'n nabod pawb felly rwy fel arfer yn rhannu rhestr gyda nhw ac yn gofyn iddyn nhw gael y grwp nesaf yn barod. Mae hyn wir yn helpu'r diwrnod i redeg yn dda.
Yr ail beth sy'n gallu achosi newidadau i'r tywydd. Os oes tywydd garw/neu'n eithafol o boeth rwy weithiau'n gwneud newidiadau er mwyn sicrhau fod y broses yn un cyfforddus i bawb. Does ddim un llun sydd werth striwa het newydd sbon Anti Beti felly os oes rhaid i nid fod tu fewn, mae hyn bob tro yn opsiwn. Os chi heb wneud yn barod, siaradwch gyda'ch ffotograffydd ar ran beth bydd eu cynllun tywydd garw.
Beth am lunie grwp llai ffurfiol?
Does dim rhaid i bob llun ddigwydd ar yr un pryd. Ar ddiwrnod priodas, dwi wastad yn fodlon stopio a thynnu lluniau grŵp mwy anffurfiol a hwylus. Yn ogystal â hyn, os oes grŵp o ffrindiau neu forwynion gennych sy’n ffansio rhai llai ffurfiol, gallwn sicrhau ein bod ni’n mynd yn olaf ac yn cymryd yr amser i gael lluniau sy’n teimlo’n naturiol, llawn chwerthin ac yn wirioneddol chi.
Yn aml, dyma’r lluniau sy’n dal yr egni gorau, y cysylltiadau go iawn a’r atgofion bach sy’n gwneud y diwrnod mor arbennig.