Ar awr euraidd..

Mae ffotograffwyr priodas yn gallu siarad yn ddi-stop am olau. Ac yn wir i chi, mae golau'n cael dylanwad enfawr ar luniau yn yr awyr agored. Rwyf wrth fy modd yn cynnal sesiynau dyweddio (a phriodasol) cyn i'r haul fachlud. Ni'n galw'r cyfnod yma yn 'awr euraidd' ac mae'n gallu creu cyfleoedd arbennig. Wrth gwrs dydy'r tywydd yng Nghymru ddim bob tro yn caniatau hyn ond mae'n syniad da i drefnu sesiwn ar gyfer yr amser yma o'r dydd i roi pob siawns o gael golau o ansawdd da.


Beth sy'n gwneud lleoliad da?

Mae'n syniad da i ddewis rhywle gyda llawer o amrywiaeth. Mae'r llefydd rwyf wedi dewis i gyd yn weddol agos i faes parcio. Ni'n ffodus iawn i gael tirluniau anhygoel yng nghymru felly mae'n gwneud synwyr i fanteisio ar hyn. Yn bersonol, dwi'n gweld fod mynd am dro i le sydd yn brydferth a sy'n galluogi fi i gael sgwrs da gyda'r cwpwl hefyd yn helpu gwneud y sefyllfa yn llawer llai ffurfiol. Fel canlyniad mae pawb yn ymlacio'n fwy ac mae'r lluniau'n dangos hyn!


Fy 5 lleoliad orau ar gyfer lluniau dyweddio yn ne Cymru.


#5 Camlas Mynwy a Brycheiniog | Bannau Brycheiniog

Ar ôl ffotograffu sesiwn yma'n ddiweddar, roedd rhaid i fi gynnwys Camlas Mynwy a Brycheiniog. Mae yna rhyw 35 milltir o gamlas ond mae'r llunie yma wedi cymryd yn ardal Llangatwg sydd i'r gorllewin o'r Fenni. Cychod ar y gamlas, yr hen bontydd a'r golau'n llifo trwy'r coed - mae yna gymaint o opsiynau. Er, roedd y wac yma bach yn sbesial. Ar ôl cerdded a tynnu lluniau am rhyw 15 munud daethom ar draws y goeden fwyaf anhygoel sef Giant Sequoia (Redwood) a'r 5ed goeden fwyaf yng Nghymru. Roedd rhaid i ni stopio a wnaethom gwario bach o amser yn cymryd lluniau a rhyfeddu ar maint y goeden! I weld rhagor o luniau o'r sesiwn hyn, cliciwch yma.

#4 Pembre & Porth Tywyn | Sir Gaerfyrddin

Fel rhywun sy'n wrieddio o ardal Llanelli, roedd rhaid i mi gynnwys lleoliad lleol. Gan taw Cefn Sidan yw traeth gorau Cymru (falle fy mod i bach yn biased) pendefynais ei gynnwys. Mae'r opsiwn gyda chi hefyd i fynd yn y car i oleudy Porth Tywyn. Milltiroedd o dywod perffaith a goleudy - beth arall sydd angen?


Lleoliadau Agos: Glan y Fferi, Traeth Llanelli, Parc Gwledig Pembre

3# Sgwd Gwladys | Bannau Brycheiniog


Mae'r rhaeadr anhygoel yma'n rhyw 30 munud o wac o'r car ar dir weddol wastad. Hynnod o brydferth yn nhymor yr Hydref.


Lleoliadau agos: Melincourt Waterfall, Dinas Rock, Pontneddfechan

3# Sgwd Gwladys | Bannau Brycheiniog


Mae'r rhaeadr anhygoel yma'n rhyw 30 munud o wac o'r car ar dir weddol wastad. Hynnod o brydferth yn nhymor yr Hydref.


Lleoliadau agos: Melincourt Waterfall, Dinas Rock, Pontneddfechan

#2 Craig Cerrig Gleisiad | Bannau Brycheiniog


Falle'r lleiolaid lleiaf enwog ond am rhywle sydd mor agos i'r heol, mae e'n wyrthiol pa mor wyllt a ond mae e wir gwerth ymweld


Felly, bety sydd mor wych am y lle yma? Wel, gan feddwl fod y tirlun mor mynyddig a gwyllt, mae'n hynnod o hawdd i gyrraedd. Rhyw 10 munud o wac a chi'n teimlo fel eich bod yn bell o unrhywun arall. Ar hyn o bryd mae e dal ym gymharol dawel sy'n helpu tipyn gyda lluniau.


Lleoliadau Agos: Llwyn Onn Reservoir, Talybont Reservoir, Llyn Llangors


Craig Cerrig Gleisiad | Brecon Beacons

#1 Bae'r Tri Chlogwyn | Gwyr


Falle fod hwn ddim yn sypreis enfawr ond roedd e'n amhosib gadael allan. Mae'r Gwyr yn llawn traethau ac arfordir hyfryd ond mae'r un yma bach yn sbesial.


Er fod yna sawl ffordd o gyrraedd y traeth, fy awgrymiad yw i barcio ym maes parcio y National Trust yn Southgate. Mae wac pleserus ar hyd y clogwyn tuag ar y bae gyda cyfleoedd da am lunie cyn cyrraedd. Cliciwch yma i gael y cyfeiriadau llawn.


Opsiwn da arall os hoffech gyrraedd y traeth yn gynt (a gwario mwy o amser ymhlith y twyni mae'n bosib parcio yn SA3 2HH a dilyn y llwybr i lawr.


Lleoliadau agos: Rhossili, Mwmbwls

Rhagor o lefydd i ystyried..

Glan y Fferi

Sir Gar

Mwnt

Ceredigion

Llyn y Fan Fach

Bannau Brycheiniog

Rhossili

Gwyr

MAP LLEOLIADAU

Ffotograffiaeth Thomas Roberts Photography


Ewch i fy ngwefan i weld rhagor o luniau ac i gael gwybodaeth ar brisiau a beth dwi'n gallu cynnig.

Mwy o Wybodaeth