Ffotograffydd Priodas o Sir Gaerfyrddin

Dwi'n nabod Llyn Llech Owain yn dda iawn, mae'n rhywle hynod o bert ac yn lleol i mi. Serch hynny, doeddwn i erioed wedi gwneud sesiwn ffotograffiaeth yma (gyda phobl). Felly, roeddwn yn gyffrous iawn pan awgrymodd Lianne ein bod ni'n cwrdd yma ar gyfer ei sesiwn dyweddïo gyda Dean. 


Mewn llai na deufis, byddai'n yn ffotograffu priodas Lianne a Dean ym Meudy Pen y Graig ger Caerfyrddin, felly roedd hwn yn gyfle da i drafod eu cynlluniau a dod i nabod ein gilydd yn well..yn o gystal â chymryd lluniau o'r pâr o fewn y dirwedd hyfryd yma wrth gwrs. 


O gwmpas Llyn Llech Owain, mae yna gors, sy'n meddwl bod y dŵr yn dywyll dros ben ac mae'r holl le llawn natur. Dwi bob tro yn credu bydde hwn yn gwneud lleoliad da ar gyfer ffilm neu gyfres deledu 'Scandi' gan ei fod mor atmosfferig. Gan oedd y niwl yn hongian o gwmpas y llyn, gwnaethon ni gofleidio ar yr awyrgylch yma a chawsom lawer o hwyl yn gwneud. 




Teimlo'n gyfforddus o flaen y camera..

Un bwriad tu ôl i sesiwn dyweddïo, yw dod yn gyfarwydd â'ch ffotograffydd a'r camera cyn diwrnod eich priodas. Rwy'n hoffi cadw'r holl broses mor naturiol â phosib gyda ddim gormod o bosan ffurfiol. 


Un peth dwy'n hoffi neud yw defnyddio promptiau e.e.. 'Cerddwch yn dal dwylo fel eich bod yn dod allan o Savannahs am 2 o'r gloch y bore! 


Mae cael bach o hwyl gyda'r amser yn setlo nerfau ac mae'n rhyfedd fain o bobl sy'n gallu meistroli'r promptiau hyn a bod yn hollol proffesionals o flaen y camera mewn dim amser o gwbl! Dyma ambell un o Lianne a Dean yn gwneud gwmws hyn.

Cerddon ni o gwmpas y llyn gan gymryd y cyfle i fwynhau'r tawelwch a chymryd llunie wrth i ni ddod o hyd i leoliadau diddorol.

Tuag at ddiwedd y wâc, mae yna feudy du enfawr. Fel ffotograffydd mae cefndir minimalistig a rustig fel hyn wastad yn hyfryd i gael. Ar ôl pum munud aethon ni nol i'n ceir a dweud hwyl fawr cyn y diwrnod mawr yn The Olde Barns, Penygraig. 


Ffotograffiaeth Thomas Roberts Photography


Ffotograffydd Priodas o'r Hendy, Sir Gar yw Tom. Cliciwch ar y ddolen isod i weld mwy o lunie priodas neu i weld os yw e ar gael ar gyfer eich diwrnod mawr.

www.thomasroberts.cymru